Wrth ddewis astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddi'n ymuno â chymuned Gymraeg fyrlymus, o fewn y brifysgol a'r tu allan. Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn gartref i gymuned fywiog o fyfyrwyr ac ymchwilwyr, o Gymru a’r tu hwnt, o fewn tref ac ardal ddwyieithog sy'n llawn hanes, a lle mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'r gwead cymdeithasol.
Byddi'n dysgu am lenyddiaeth, diwylliant, gwleidyddiaeth, hanes a chymdeithaseg Cymru. Bydd hyn oll yn ehangu dy orwelion a bydd dy wybodaeth am Gymru'n werthfawr wrth iti ymgeisio am swyddi yng Nghymru heddiw.
Mae’r cynllun gradd hwn yn addas i fyfyrwyr Cymraeg ail iaith, ac i siaradwyr iaith gyntaf. Beth bynnag yw dy sefyllfa di, tyrd i ymuno â ni ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd gradd yn y Gymraeg yn profi dy fod yn gallu mynegi dy hun yn Gymraeg yn effeithiol a phwrpasol, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Cymuned Gymraeg fyrlymus yng nghalon Cymru - Byddi'n ymuno ag un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg.
- Enw da – Mae safon ymchwil ac addysgu’r adran hon yn Aberystwyth gyda’r uchaf posib.
- Arwain - Mae'r Adran yn arwain y sector mewn meysydd fel ysgrifennu creadigol, y Gymraeg yn y gweithle proffesiynol ac astudiaethau cyfieithu, ac mae pawb yn yr Adran yn rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth, a’i lle yn y byd modern.
- Hanes - Hon yw'r Adran Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru (1875).
- Arbenigwyr - Cei dy ddysgu gan ddarlithywyr sydd yn arbenigwyr yn eu meysydd.
- Dewis eang o fodiwlau - Byddi'n astudio pynciau hynod ddiddorol sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr, o hanes ein llên i lenyddiaeth gyfoes, ac o gymdeithaseg yr iaith Gymraeg i gyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, ac ysgrifennu creadigol a sgriptio.
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drws Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'i chasgliad o adnoddau llenyddol, clywedol a gweledol gwych.
- Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Cei ymaelodi ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), byw yn neuadd Pantycelyn, a chymryd rhan mewn llu o weithgareddau hwyliog a drefnir gan yr undeb.
- Boddhad Myfyrwyr - Yn yr arolwg cenedlaethol diweddar o fodlonrwydd myfyrwyr, roedd 100% o foddhad cyffredinol ym maes Astudiaethau Cymraeg (NSS 2020).
Rydym yn cynnig amrywiaeth hynod ddiddorol o fodiwlau unigol sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, llên gwerin, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg.
Beth fydda i’n ei ddysgu
Dyma grynodeb:
Iaith Gyntaf - Yn y flwyddyn gyntaf cei gyfle i weld pa agwedd ar y Gymraeg sydd o ddiddordeb mwyaf i ti. Byddi'n dysgu am amrywiaeth o gyfnodau llenyddol ac agweddau eraill ar y pwnc er mwyn gallu dewis dy gyfuniad unigryw di o fodiwlau yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.
Ail Iaith - Yn y flwyddyn gyntaf byddi'n cael dy ddysgu ar wahân i'r myfyrwyr iaith gyntaf. Bydd hyn yn rhoi cyfle iti fagu hyder a gwella dy sgiliau iaith gyda chefnogaeth staff a dy gyd-fyfyrwyr. Yn yr ail flwyddyn byddi'n dilyn modiwlau iaith eraill er mwyn datblygu dy hyder ymhellach a byddi hefyd yn gallu dewis o blith yr amrywiaeth eang o fodiwlau sydd ar gael gan yr Adran.
Sut bydda i’n cael fy addysgu
Yn Adran y Gymraeg byddi'n dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.
Sut bydda i'n cael fy asesu
Bydd dy waith yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.