Mae nifer o fyfyrwyr o’r farn bod astudio rhaglen gydanrhydedd yn brofiad gwerth chweil gan eu bod yn gallu gweld yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol rhwng y ddau bwnc. Drwy gyfuno’r Gymraeg ac Addysg, byddwch yn ennill amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth a fydd yn fuddiol ar gyfer eich dyfodol.
CYMRAEG
Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.
Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen ichi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa.
ADDYSG
Mae ein gwaith addysgu ar Addysg wedi ei seilio ar ein hymchwil ym myd addysg a’r datblygiadau diweddaraf o ran polisi ac ymarfer, gan gwmpasu agweddau ar ddiwylliant a hunaniaeth, plentyndod ac ieuenctid, rhywedd ac ethnigrwydd, a chyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiad.
Mae modiwlau craidd wedi eu hanelu at ddatblygu dealltwriaeth ddofn o gyd-destunau cymdeithasol, hanesyddol, gwleidyddol, economaidd a datblygiadol addysg – yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil diweddar.
Mae’r ddwy ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd hon yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i gefnogi gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y myfyrwyr a’r staff.
NODYN: Fel arfer, mae'r radd gydanrhydedd hon yn agored dim ond i ddarpar fyfyrwyr sydd wedi astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf ar gyfer Safon Uwch. Os nad ydych wedi gwneud hynny ond eich bod yn teimlo bod eich Cymraeg o safon cyfatebol, anfonwch e-bost at cymraegcaerdydd.ac.uk.
Nodweddion nodedig
CYMRAEG
Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys:
- Y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle
- Modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith
- Ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa
- Y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd i chi drwy gydol eich gyrfa
- Y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol
- Y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil
- Y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn
ADDYSG
- Er nad yw hwn yn gymhwyster addysgu, mae'n gyfle i astudio addysg mewn ffyrdd sy'n mynd y tu hwnt i ffocws ar ymarfer addysgu. Byddwch yn astudio’r dadleuon ehangach ynghylch addysg, gan osod y sylfaen ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd.
- Mae ein cysylltiadau agos â llunwyr polisi, yn ogystal ag ysgolion, colegau a sefydliadau addysg a hyfforddiant eraill lleol, yn darparu cyfleoedd ichi ymgysylltu o ddifrif ag addysgwyr ac arferion. Mae nodweddion unigryw'r cwrs yn cynnwys:
- Y cyfle ichi ddysgu mewn Ysgol a gyrhaeddodd y 3ydd safle yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd ymchwil mewn cymdeithaseg a’r 5ed safle o ran addysg yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF)
- Ymwneud â staff sy’n weithredol ym myd ymchwil ac addysgu
- Y pwyslais ar ddysgu’n annibynnol mewn amgylchedd a arweinir gan ymchwil
- Yr amrywiaeth o fodiwlau sydd ar gael mewn Ysgol amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol
- Y cyfle i astudio dramor