Yn ein BA mewn Cymraeg ac Athroniaeth, byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant, ac yn ymgysylltu â chwestiynau athronyddol allweddol ar draws ystod eang o bynciau a thraddodiadau.
Byddwch yn cyflawni lefel uchel o sgiliau mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol sydd wedi'u datblygu'n dda sy'n berthnasol i'r Gymru fodern. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd feddwl-agored a chydweithredol, gan gynnwys ar bynciau sensitif a dadleuol. Mae opsiynau modiwlau yn caniatáu ichi archwilio pynciau megis ysgrifennu Cymraeg hanesyddol a chyfoes, polisi iaith, a chyfieithu proffesiynol.
Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn datblygu sylfaen gadarn mewn athroniaeth foesol a hefyd yn astudio epistemoleg, athroniaeth y meddwl, ac athroniaeth wleidyddol. Mae cyfleoedd i astudio meysydd fel estheteg, athroniaeth ffeministaidd a ffenomenoleg ar gael drwy gydol eich astudiaethau.
Byddwch yn dod i werthfawrogiad dyfnach o oblygiadau meddwl athronyddol, gan roi cyswllt clir rhwng damcaniaethau a'u cymhwysiad i chi. Rhoddir pwyslais ar hyn yn eich blwyddyn olaf, pan fyddwch yn cymryd rhan mewn prosiect i gymhwyso ymchwil athronyddol i ddatblygu polisïau neu strategaethau sy'n anelu at ddatrys problem foesegol neu gymdeithasol yn y byd go iawn.
Yn ystod y radd, cewch y cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol, i fagu eich hyder a'ch sgiliau proffesiynol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â thraethawd hir, lle byddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc o'ch dewis yn ymwneud â'r Gymraeg, ei diwylliant neu ei llenyddiaeth.
Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu, a meddwl yn feirniadol. Byddwch yn ymwybodol o’r heriau moesegol, cymdeithasol ac ieithyddol sy’n wynebu cymdeithas a diwydiant modern, a bydd gennych y syniadau a’r hyder sydd eu hangen i’w datrys. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr hefyd, gan olygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol, dinesig ac economaidd Cymru.
Nodweddion Unigryw’r Rhaglen
Meddyliwch dros eich hun
Ymdriniwch yn feirniadol ac yn greadigol â gwahanol fathau o destunau, data a chwestiynau anodd.
Cymraeg yn y gweithle
Magu eich hyder a'ch sgiliau ymarferol drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol ar brofiad gwaith.
Cyfathrebu'n effeithiol
Datblygwch sgiliau dwyieithog wrth lunio a chyflwyno eich syniadau a'ch dadleuon.
Dyfodol gwell i bawb
Cymhwyso ymchwil athronyddol i ddatrys problemau cymdeithasol y byd go iawn neu ymgysylltu â chymunedau lleol ynglŷn â’ch astudiaethau.
Dilynwch eich diddordebau
Dewiswch o fodiwlau ar draws ystod o feysydd mewn llenyddiaeth ac iaith Gymraeg ac amrywiaeth o ddadleuon athronyddol hanesyddol a newydd.