Mae Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth yn un o’r adrannau mwyaf blaenllaw a phrofiadol o’i bath. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio daearyddiaeth yn un o’r lleoliadau prydferthaf yn Ewrop. Mae’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi’i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi’i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o dirweddau hardd, yn cynnwys y môr, gweundiroedd, mynyddoedd a glaswelltiroedd; mae hi mewn lle unigryw i wneud y gorau o’r tirweddau gwych sy’n ei hamgylchynu, ac yn cynnig amrywiaeth arbennig o gyfleoedd gwaith maes a hamdden i chi.
Bydd y radd hon yn eich arfogi â’r sgiliau, y galluoedd a’r arbenigedd i wynebu ac ymgysylltu â’r heriau sy’n wynebu’r gymdeithas sydd ohoni. Cafodd y rhaglen hon ei hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain). Trwy achrediad cydnabyddir rhaglenni sy’n darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau, y dulliau a’r nodweddion proffesiynol daearyddol sy’n ddisgwyliedig gan raddedigion safonol ym maes daearyddiaeth, fel a gofnodwyd yn Natganiad Meincnod Pwnc yr ASA ar gyfer Daearyddiaeth.
Gan ein bod yn gymuned Ddaearyddiaeth fawr a deinamig, gallwn gynnig amrywiaeth eang iawn i chi o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddol:
Prosesau dalgylch afon;
Rhewlifeg; Biodaearyddiaeth;
Newid Amgylcheddol Cwaternaidd;
Tueddiadau cyfoes mewn Daearberyglon;
Cynaliadwyedd Trefol;
Datblygu Rhanbarthol;
Daearyddiaeth Wleidyddol a Diwylliannol;
Cyfleoedd am waith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd, Ffrainc, Iwerddon, Gwlad yr Iâ, Mynydd Etna, Ecuador a Pheriw, ymhlith eraill;
Gwobrau teithio ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau (hyd at £400);
Cyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf a’r dechnoleg ddiweddaraf i gyfoethogi dysgu;
Labordai llawn cyfarpar yn cynnwys amrywiaeth o offerynnau dadansoddi e.e. sbectromedrau a sganwyr craidd sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudio yn annibynnol.
Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’r holl gyrsiau a gynigiwn. Mae ein graddau yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn gallu addasu a galw ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan sicrhau bod galw amdanynt drwy’r amser. Ymhlith y setiau sgiliau y mae: Gwell sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol; Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol; Sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn; Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm; Sgiliau rheoli amser a threfnu; Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar; Hunangymhelliant a hunanddibyniaeth. Mae ein graddedigion wedi cael swyddi fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym myd addysg, ymhlith swyddi eraill.